P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Adam Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 174 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’n
bosibl na fydd staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed, sydd
angen cael eu diogelu neu sydd wedi bod yn feichiog am gyfnod o
dros 28 wythnos yn elwa ar yr un cymorth ariannol na’r un
mesurau diogelu ag a ddarperir gan fyrddau iechyd i staff amser
llawn y GIG. Mae rhai o staff cronfa GIG Cymru, fel cynorthwywyr
iechyd, nyrsys a bydwragedd ac eraill, wedi bod yn gweithio yn y
GIG ers blynyddoedd, a dyma yw prif ffynhonnell eu hincwm.
Mae’n bosibl y bydd staff cronfa sy’n agored i niwed
neu’n feichiog yn wynebu dewis rhwng gweithio neu beidio ag
ennill cyflog, a hynny ar yr amod bod gwaith amgen yn cael ei
gynnig iddynt beth bynnag.
Os gwelwch yn dda, cefnogwch staff cronfa’r GIG.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae
Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod pobl agored i niwed rhag
gwahaniaethu (o dan y pennawd anabledd), yn ogystal â phobl
sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth.
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, yn ogystal
â Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999,
mae’n rhaid cynnal asesiadau risg mewn perthynas â
staff cronfa’r GIG mewn perthynas ag argyfwng Covid-19. Mewn
sefyllfaoedd lle nad oes modd i’r staff cronfa dan sylw
weithio, neu lle na ellir cynnig gwaith arall iddynt, mae’n
bosibl y bydd y staff hynny yn cael eu gadael heb incwm.
Yn y cyfnod digynsail hwn, dylai Senedd Cymru, GIG Cymru a’r
byrddau iechyd perthnasol ymestyn cymorth ariannol a mesurau
diogelu i staff cronfa’r GIG. Ar hyn o bryd, mae’n
bosibl y bydd staff cronfa’r GIG yng Nghymru yn wynebu dewis
rhwng gweithio neu aros gartref heb gymorth ariannol.
https://www.rcn.org.uk/get-help/rcn-advice/bank-workers
https://www.bristolpost.co.uk/news/bristol-news/nhs-southmead-hospital-furlough-coronavirus-4082655
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· De Clwyd
· Gogledd Cymru